GTB Hosbis a Gofal Lliniarol 26 Ionawr 2023, 15.00-16.30

CPG Hospice and Palliative Care 26 January 2023, 15.00-16.30

 

Lansio adroddiad ymchwiliad y Grŵp Trawsbleidiol i brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod y pandemig, sbotolau ar fynediad at seibiannau byr i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd, a mynediad at ofal yn y cartref y tu allan i oriau yng Nghymru

 

Cofnodion

 

Yn bresennol

Mark Isherwood AS

Mark Major (Altaf Hussain AS)

Huw Irranca-Davies AS

Steven Skivens (Peredur Owain Griffiths AS)

Eleri Cubbage (Lynne Neagle AS)

Ryland Doyle (Mike Hedges AS)

 

Ceridwen Hughes, Same But Different

Liz Booyse, Hosbis y Ddinas

Dominic Carter, Hospice UK

B Jones

Matthew Brindley, Hospice UK

George Parish Wallace, Cymdeithas Alzheimer

Tash Wynne, Marie Curie

Jon Antoniazzi, Marie Curie

Tracy Jones, Tŷ Hafan

Laura Hugman, Hosbis yn y Cartref Paul Sartori

Ellen Greer, Hosbis Sant Cyndeyrn

Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru

Janette Bourne, Cruse

Gethin Rhys, Cytûn

Grant Usmar, Hosbis y Cymoedd

Dr Idris Baker, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Gofal Lliniarol a Diwedd Oes

Mary Mitchell

Catherine Hodge, Hospice UK

Andy Goldsmith, Tŷ Gobaith

Steve Ham, Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol, Gofal Lliniarol a Diwedd Oes

Glenn Page, Cymorth Canser Macmillan

 

 

Ymddiheuriadau

Emma Saysell, Gofal Hosbis Dewi Sant

Russell George AS

Yr Athro Chris Jones (Dirprwy Brif Swyddog Meddygol)

Jayne Bryant AS

Heledd Fychan AS

Heather Ferguson, Age Cymru

Anna Tee, Cymorth Canser Macmillan

 

 

 

 

Croeso gan y Cadeirydd, cofnodion o'r cyfarfod blaenorol a materion sy’n codi

 

Croesawodd Mark bawb i’r cyfarfod, yn enwedig y siaradwyr gwadd a fyddai’n ymdrin â mynediad at seibiannau byr i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd, lansiad yr adroddiad ar ymchwiliad y Grŵp Trawsbleidiol i brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod y pandemig, a mynediad at ofal yn y cartref y tu allan i oriau yng Nghymru.

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol gan Tracy Jones gyda Liz Booyse yn eilio.

 

Rhoddodd Mark y wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar y cynnydd yn erbyn camau gweithredu:

 

·         Ysgrifennodd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan rannu copi ymlaen llaw o’r adroddiad ar yr ymchwiliad i brofiadau gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod y pandemig. Yn ei hymateb, croesawodd gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd y byddai’n ystyried yr argymhellion ar y cyd â’r adolygiad o ariannu cam 2, ac ymrwymodd i rannu’r adroddiad â chydweithwyr sy’n arwain ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymchwiliad cyhoeddus ehangach i bandemig COVID-19 er mwyn cyfoethogi eu hystyriaethau.

 

·         Ymatebodd y Gweinidog hefyd i lythyr y Grŵp Trawsbleidiol ar y pwysau costau byw a wynebir gan hosbisau a’r bobl a gefnogir ganddynt. Yn ei hymateb, dywedodd ei bod yn ystyried yr argymhellion interim yn yr adolygiad ariannu cam 2, sy'n cynnwys ffocws ar ddarpariaeth gymunedol, darpariaeth y tu allan i oriau, ac effaith yr argyfwng costau byw. Dywedodd hefyd yn ei hymateb y bydd yr adolygiad ariannu cam 3 terfynol (sydd i’w gwblhau ym mis Ionawr 2024) yn ystyried mater y cytundebau lefel gwasanaeth a’r ymgodiadau chwyddiant blynyddol ar gyfer hosbisau fel rhan o gynnig Cymru ‘ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes’. Dywedodd y Gweinidog y byddai’n disgwyl i fyrddau iechyd gymhwyso ymgodiadau teg i’r holl wasanaethau dan gontract sy’n darparu gwasanaethau craidd y GIG, gan gynnwys hosbisau.

 

·         Cyn y Nadolig, anfonodd y Grŵp Trawsbleidiol a’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ofal Hosbis a Gofal Diwedd Oes lythyr ar y cyd at Grant Shapps AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Galwodd y llythyr arno i ymestyn y Warant Pris Ynni bresennol i ddwy flynedd ar gyfer aelwydydd lle mae person ar ddiwedd ei oes ac ymestyn y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni presennol ar gyfer hosbisau. Nid yw’r Grŵp Trawsbleidiol wedi cael ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol eto, ond mae’r sefyllfa wedi newid yn y cyfamser yn sgil y cyhoeddiad diweddar ynghylch y Cynllun Gostyngiad Biliau Ynni sydd, ym marn llawer o hosbisau, yn annigonol ac yn peryglu eu sefydlogrwydd.

 

·         Dywedodd Mark wrth yr aelodau fod Hosbisau Cymru wedi trafod materion y tu allan i oriau â’r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol yn eu cyfarfod diwethaf a bod y Grŵp Trawsbleidiol yn cadw golwg ar y mater hwn eto heddiw gyda chyflwyniad gan Marie Curie ar y ddarpariaeth o wasanaethau y tu allan i oriau yng Nghymru.

 

O ran materion costau byw, dywedodd Liz Booyse fod Hosbisau Cymru wedi cael ymateb tebyg gan y Gweinidog ac y byddent yn trafod hyn yn eu cyfarfod nesaf. Ychwanegodd eu bod yn hapus i roi diweddariad i'r Grŵp ar eu hymateb. Croesawodd Liz ymateb y Gweinidog, ond dywedodd nad aethpwyd i’r afael â’r costau uniongyrchol a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r gweithlu sy’n wynebu llawer o hosbisau yng Nghymru.

 

Dywedodd Andy Goldsmith fod Tŷ Gobaith wedi’i siomi gan ymateb y Gweinidog, yn enwedig o ystyried nad oes cynlluniau ar gyfer ymgodiad chwyddiant i gyllid statudol ar gyfer hosbisau yn y flwyddyn gyfredol. Golyga hyn fod y cynnydd i 21 y cant yng nghyllid Llywodraeth Cymru i hosbisau plant y llynedd wedi gostwng i 13 y cant i bob pwrpas.

 

Cytunodd Mark Isherwood a’r Grŵp y byddent yn ymateb i lythyr y Gweinidog ar gostau byw ar ôl ymgynghori â Hosbisau Cymru. Gofynnodd hefyd i Hospice UK roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp Trawsbleidiol ar gyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ynni.

 

Dywedodd Dom Carter o Hospice UK eu bod yn anhapus â’r Cynllun Gostyngiad Biliau Ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gan nad yw’n rhoi terfyn uchaf ar gostau ac mae’n peryglu sefydlogrwydd hosbisau ar adeg pan fo’u cefnogaeth i’r system iechyd a gofal yn hollbwysig. Cafodd yr aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf ganddo am ymgyrch Hospice UK i ysgrifennu at Aelodau Seneddol i annog Llywodraeth y DU i newid ei safbwynt a rhoi mwy o sicrwydd i’r sector hosbisau, ac fe anogodd yr aelodau i gefnogi’r ymgyrch.

 

Dywedodd Mark Isherwood ei fod ef, yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i bobl gyda biliau ynni gan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain, yn ogystal â chysylltu â'u cyflenwyr. Cytunodd y Grŵp Trawsbleidiol y byddent yn cysylltu â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a’r Strategaeth Ddiwydiannol am ymateb ac y byddent yn ystyried ysgrifennu at y Trysorlys, gan dynnu sylw at y galwadau allweddol yn ymgyrch Hospice UK.

 

Gwaith sy’n parhau a gwaith sy’n codi

Dyddiad

Cam i’w gymryd

Statws

26 Ionawr

Bydd y Grŵp Trawsbleidiol yn ymateb i lythyr costau byw y Gweinidog ar ôl ymgynghori â Hosbisau Cymru, a fydd yn trafod y mater hwn yn eu cyfarfod nesaf.

Mynd rhagddo

26 Ionawr

Bydd y Grŵp Trawsbleidiol yn cysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Ynni a’r Strategaeth Ddiwydiannol am ymateb i’w lythyr costau byw ac ysgrifennu at y Trysorlys i bwysleisio’r angen am gymorth ynni gwell ar gyfer hosbisau.

Mynd rhagddo

27 Hydref

Cysylltu â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru eto gyda gwahoddiad i’r Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol a'r posibilrwydd o gyfarfod â hosbisau plant ar wahân i siarad am wella mynediad teuluoedd at seibiant.

Mynd rhagddo

26 Ionawr

Rhannu adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol yn ehangach ag Ymchwiliad COVID-19 y DU, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mynd rhagddo

26 Ionawr

Ysgrifennu eto at BIP Betsi Cadwaladr ynglŷn â’r materion nad ymdriniwyd â nhw yn ei ymateb blaenorol i dystiolaeth Ceridwen.

Mynd rhagddo

26 Ionawr

Bydd Steve Ham yn rhoi’r adroddiad ar ymchwiliad y Grŵp ar yr agenda i’w drafod yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Rhaglen Genedlaethol ac ystyried y canfyddiadau a’r argymhellion, a bydd yn cynnwys y Grŵp yn y gwaith o ddatblygu cynllun gwaith y Rhaglen Genedlaethol.

Mynd rhagddo

26 Ionawr

Ymgynghori â hosbisau ar ymchwiliad i’r berthynas rhwng byrddau iechyd a hosbisau yng Nghymru a chylch gorchwyl drafft.

Mynd rhagddo

 

Gwella mynediad at seibiannau byr i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac i’w teuluoedd

 

Croesawodd Mark Isherwood Tracy ac Andy. Dywedodd na allai Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ysywaeth, ddod o hyd i gynrychiolydd i ymuno â'r cyfarfod, er yr ymrwymiad i wneud hynny ac er i Matthew wneud llawer o ymholiadau. Gwnaethant ymddiheuro, gan ddweud bod y pwysau parhaus yn y sector yn ei gwneud yn anodd iawn i rywun sbario'r amser, ond roeddent yn hyderu y byddai cynrychiolydd ar gael i ymuno â chyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol.

 

Dywedodd Tracy Jones o Dŷ Hafan fod yr eitem ar yr agenda wedi'i chynllunio gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn bresennol a'i bod yn gobeithio y byddai hyn yn dal i fod yn bosibl. Tynnodd sylw at y ffaith bod hosbisau’n ychwanegu gwerth enfawr ar draws y sector gofal cymdeithasol, yn ogystal â’r sector iechyd, a bod llawer o deuluoedd yn dibynnu’n fawr iawn ar hosbisau am seibiant. Mae hyn yn y cyd-destun ehangach lle mae darpariaeth seibiant awdurdodau lleol yn aml yn annigonol i ddiwallu anghenion teuluoedd ac mae llawer yn mynd heb gymorth priodol. Cynlluniwyd cynnig yr hosbis o amgylch darparu gofal cyfannol a chymorth i deuluoedd (gweler y sleidiau isod).

 

Dywedodd Andy Goldsmith fod hosbisau plant yn darparu gofal seibiant arbenigol iawn (gweler y sleidiau isod). Tynnodd sylw at y ffaith nad yw’r un o’r ddwy hosbis i blant yng Nghymru yn cael cyllid rheolaidd gan awdurdodau lleol ar gyfer darparu seibiant; yn hytrach, mae’n well gan awdurdodau ddarparu cymorth yn y fan a’r lle ar gyfer gofal a gomisiynir. Eglurodd Tracy y bu cynnydd mawr yn y galw am wasanaethau a gomisiynir yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Dywedodd Andy fod camddealltwriaeth rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd ynghylch rôl pwy yw darparu gofal seibiant a bod angen i Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru fod yn bresennol i glywed y materion hyn ac ymateb iddynt.

 

Dywedodd Mark Isherwood y byddai'r Grŵp yn parhau i bwyso ar Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i drafod y materion hyn, a dywedodd Matthew Brindley y byddai'n ymchwilio’r posibilrwydd o gyfarfod rhwng yr hosbisau plant a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru y tu allan i'r Grŵp Trawsbleidiol.

 

Lansio adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar yr ymchwiliad i brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod y pandemig

 

Croesawodd Mark Isherwood gyhoeddi’r adroddiad ar ymchwiliad y Grŵp i brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod y pandemig a diolchodd i Matthew am roi’r adroddiad at ei gilydd ac i’r aelodau am eu cyfranogiad a’u cefnogaeth.

 

Diolchodd Matthew Brindley i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad a thraddododd gyflwyniad byr yn crynhoi rhesymau’r Grŵp dros ymgymryd â’r gwaith hwn a’i ganfyddiadau a’i argymhellion allweddol (gweler y sleidiau isod):

Cytunodd Mark Isherwood a’r Grŵp Trawsbleidiol y dylid rhannu’r adroddiad yn ehangach, ac argymhellodd y dylid ysgrifennu at Ymchwiliad COVID-19 y DU, byrddau iechyd, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

 

Croesawodd Mark Ceridwen Hughes a Mary Mitchell i'r Grŵp a diolchodd iddynt am roi o’u hamser i siarad am eu profiadau.

 

Disgrifiodd Ceridwen sut y cymerodd ddwy flynedd i’w chwiorydd wella o’r profiad trawmatig o roi gofal diwedd oes i’w mam yn ei chartref. Dywedodd fod yr effaith arnynt yn debyg i anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Mae hi'n credu y gallai hyn fod wedi’i osgoi pe bai eu mam wedi cael gofal diwedd oes gwell a mwy cydlynol yn ei chartref. Yn lle hynny, ar y dechrau, nid oedd ond ychydig iawn o wybodaeth ar gael ar gyfer rhoi gofal diwedd oes i anwylyd, ac yna methwyd â nodi a mynd i'r afael â phroblemau poen yn y dyddiau cynnar. Disgrifiodd gefnogaeth y tu allan i oriau fel rhywbeth enbydus ar y pryd ac o hyd, gan gynnwys problemau gyda ffonau heb oruchwyliaeth, gwasanaethau ffôn ateb nad oedd yn cael eu gwirio, a'r gwasanaeth 111 newydd yn gwneud dim i wella pethau. Dywedodd nad oedd hi am wneud cwyn ffurfiol yn sgil ei phrofiad gyda’i mam, gan obeithio y gallai siarad â’r bwrdd iechyd ac ymdrin â’r materion a’u gwella trwy ddeialog ac ymgysylltu. Yn anffodus, nid yw hyn wedi gweithio ac nid yw’r bwrdd iechyd wedi ymgysylltu â hi o gwbl. Mae hi'n credu bod yn rhaid i rywbeth ddod o ffordd o farw mor erchyll.

 

Dywedodd Mair wrth y Grŵp am ei phrofiad hi a phrofiad ei gŵr Mike o ddiwedd oes â dementia mewn cartref gofal yn ystod y pandemig. Disgrifiodd y cyfnod clo fel y peth gwaethaf posibl am nad oedd hi’n cael gweld ei gŵr na deall i faint yr oedd e’n ei wybod. Nid oedd hi’n gwybod ychwaith a oedd e’n credu ei bod wedi’i roi e yn y cartref gofal a chefnu arno, ac roedd hynny’n dorcalonnus.

Dywedodd ei bod yn ddig: yn ddig wrth y pandemig; yn ddig wrth y cyfnodau clo a’r cyfyngiadau ar ymweliadau; yn ddig wrth y feirws, am iddo ei hamddifadu o ddwy flynedd ystyrlon olaf bywyd Mike ac effeithio'n wael ar lesiant y ddau ohonynt. Disgrifiodd hi fod Mike wedi dioddef amddifadedd emosiynol am ddwy flynedd olaf ei fywyd, fel y gwnaeth cynifer o bobl eraill mewn cartrefi gofal gan nad oedd y bobl arbennig yn eu bywydau yno.

 

Dywedodd Mair fod staff y cartref gofal, er gwaethaf heriau enfawr y pandemig, wedi gwneud eu gorau a’u bod yn garedig iawn, yn enwedig tua’r diwedd pan oedd Mike wedi stopio bwyta ac yfed, pan oedd yn cael trafferth yn llyncu ac roedd mewn trallod mawr lawer o’r amser. Disgrifiodd un gofalwr penodol a fyddai’n eistedd gydag ef am oriau, a phan fu farw Mike, daeth llawer o’r gofalwyr i mewn i roi cwtsh iddi - roeddent yn eu dagrau ac yn amlwg yn hoff iawn ohono. Darllenodd hefyd gerdd sy’n cyfleu sut oedd hi’n teimlo yn ystod y cyfnod anodd hwn. Disgrifiodd Covid a’r cyfnodau clo fel lleidr a oedd wedi cipio Mike oddi wrthi.

 

Diolchodd Mark Isherwood i Mary a Ceridwen am rannu eu profiadau a chynigiwyd ei gydymdeimladau ar eu colled. Argymhellodd y dylai'r Grŵp ysgrifennu eto at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn flaenorol gan Ceridwen. Croesawodd Steve Ham a Dr Idris Baker i'r Grŵp i ymateb i adroddiad yr ymchwiliad a phrofiadau pobl.

 

Diolchodd Steve Ham i Ceridwen a Mary am rannu eu profiadau a chroesawodd gyhoeddi adroddiad ymchwiliad y Grŵp. Dywedodd y bydd y Bwrdd Rhaglen Genedlaethol yn rhoi’r adroddiad ar yr agenda i’w drafod yn ei gyfarfod nesaf a chynigiodd ac ystyried y canfyddiadau a’r argymhellion, a chynnwys y Grŵp Trawsbleidiol yn y gwaith o ddatblygu cynllun gwaith y Rhaglen Genedlaethol.

 

Diolchodd Idris Baker i Ceridwen a Mary a dywedodd ei fod wedi gofidio clywed am rai o'r profiadau gwael a’i fod yn gwerthfawrogi clywed am rai cadarnhaol. Dywedodd fod adroddiad y Grŵp yn cyffwrdd â llawer o’r anghydraddoldebau sy’n bodoli mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes a bod gwella data yn allweddol i fynd i’r afael â’r rhain. Dywedodd y byddai'n hapus i helpu i ymdrin â rhai o'r argymhellion ar gyfer y Bwrdd Rhaglen Genedlaethol yn ogystal â'r argymhellion ehangach.

 

Sbotolau ar fynediad i ofal yn y cartref y tu allan at oriau yng Nghymru gyda Tash Wynne o Marie Curie

 

Croesawodd Mark Isherwood Tash Wynne i'r Grŵp (gweler y sleidiau isod):

 

 

Diolchodd Mark Isherwood i Tash am ei chyflwyniad.

 

Diolchodd Ceridwen Hughes i Tash ond mynegodd bryder pe bai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mabwysiadu model Tîm Gofal Lliniarol Integredig Merswy (IMPaCT) ar gyfer gofal y tu allan i oriau efallai na fyddai'n gweithio oherwydd amrywiadau lleol yng ngogledd Cymru o gymharu â Glannau Merswy. Gofynnodd hefyd a oedd unrhyw un wedi cerdded drwy'r system 111 i weld pa mor effeithiol ydyw i'r defnyddiwr a gofynnodd pa mor gywir yw data byrddau iechyd?

 

Diolchodd Tash i Ceridwen am ei hadborth a dywedodd fod y cwestiwn yn un da ac y byddant yn ymchwilio iddo.

 

Materion parhaus/diweddariadau

 

Gofynnodd Mark Isherwood i’r aelodau sut y byddent yn teimlo pe bai’r Grŵp yn cynnal ymchwiliad i’r berthynas rhwng hosbisau a byrddau iechyd yng Nghymru. Roedd yr aelodau yn gefnogol ar y cyfan ond dywedodd Matthew y byddai angen iddo ymgynghori'n ehangach â hosbisau yn gyntaf ac yna drafftio cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad. 

 

Cytunodd yr aelodau i gynllunio i’r cyfarfod nesaf ond un fod yn hybrid o bosibl.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf yw dydd Iau 27 Ebrill 2023 am 15.00 (lleoliad i'w gadarnhau)